JohnWALTERSYn dilyn salwch byr yn Ysbyty Glangwili ar 21ain Gorffennaf hunodd John, Clos Cwnin, Caerfyrddin, gynt o Blas Glanrhydw, Cloigyn. Gweithiodd fel ymchwilydd ar beiriannau cyflymu gronynnau yn CERN yn y Swistir, Efrog Newydd, Chicago a Los Angeles. Bu'n ddarlithydd Ffiseg gyda'r Brifysgol Agored. Gŵr ffyddlon Gwyneth, tad cariadus Dafydd a Hywel, tad-cu arbennig Rebecca, Jonathan a Catrin, brawd-yng-nghyfraith annwyl Nina a Moira. Angladd preifat ddydd Sadwrn 31ain Gorffennaf yn Eglwys Llangyndeyrn am 12 o'r gloch. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Tŷ Cymorth trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG
Keep me informed of updates